Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.15) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(9.15-11.00) |
Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Andrew Hewitt, Rheolwr Polisi, Llywodraeth Cymru Gareth Mc Mahon, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Llywodraeth Cymru Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig
(Cymru), fel y'i cyflwynwyd (PDF, 831KB) Memorandwm Esboniadol (PDF, 1.2MB) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi
Trethi Datganoledig (Cymru). 4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu nodyn yn esbonio pam ei fod
o'r farn bod gosod cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis i'r
dyddiad ffeilio o 95 y cant o'r dreth sy'n ddyledus yn gymesur mewn perthynas
â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol. |
|
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00-11.10) |
Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.10-11.25) |
Y diweddaraf am weithdrefnau'r gyllideb o ystyried trethi datganoledig Papur 1 - Y diweddaraf am weithdrefnau'r gyllideb o ystyried trethi
datganoledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
|
(11.25-11.30) |
Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi Papur 2 - Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r Bil Treth
Gwarediadau Tirlenwi – 14 Medi 2016 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Busnes. |
|
(11.30-12.30) |
Cyflwyno Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 Steven O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol, Swyddfa Archwilio
Cymru Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Swyddfa Archwilio
Cymru Cofnodion: 9.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyniad i'r Aelodau ar Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. |